
Rwy’n falch i ymuno â Phlant yng Nghymru fel Prif Weithredwr o 11 Mai 2020. Heb os, mae hwn yn gyfnod heriol a phryderus i blant a phobl ifanc ledled Cymru, sy’n gwneud gwaith Plant yng Nghymru a’i aelodau yn hyd yn oed fwy o frys. Gwyddom fod effaith fwyaf COVID-19 yn disgyn yn anghymesur ar grwpiau mwy bregus a difreintiedig, sy’n tanlinellu pwysigrwydd dulliau cydweithredol o ymateb i’r sefyllfa. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n haelodau, Cymru Ifanc a Llywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu.