Llongyfarchiadau i Gavin sydd wedi ennill taleb Amazon gwerth £50 yng nghystadleuaeth ffotograffau Cyswllt Rhieni Cymru ‘I Bob Teulu’, oedd yn dathlu Wythnos Genedlaethol Rhianta.
Ar hyd mis Medi a mis Hydref 2024, bu Cyswllt Rhieni Cymru, prosiect gan Plant yng Nghymru, yn defnyddio dull creadigol o estyn allan at rieni i ddarganfod beth sy’n gwneud eu teulu nhw yn arbennig, yn unigryw neu’n wahanol.
Fe gawson ni amrywiaeth o ffotograffau oedd yn rhannu cipolwg unigryw ar funudau arbennig ym mywyd teuluoedd yng Nghymru.
Dyma’r 7 prif thema y daeth Cyswllt Rhieni Cymru ar eu traws:
- Cysylltiad
- Awyr Agored
- Teuluoedd o bob lliw a llun
- Gofalwyr ifanc
- Teulu estynedig
- Portreadau teulu
- Cofleidio bywyd teuluol – munudau arbennig
Bu rhieni’n rhannu eu taith gyffrous wrth iddyn nhw ddod yn rhieni, a’r datblygiadau y tu hwnt i hynny. Roedd y ffotograffau’n dangos pwysigrwydd mwynhau’r munudau arbennig hynny, gan i ni dderbyn llawer o ffotograffau o wyliau teuluol a diwrnodau sy’n amlygu pwysigrwydd amser i ffwrdd oddi wrth fywyd pob dydd.
Roedd teuluoedd yn falch o’u gwahaniaethau ac yn barod i rannu sut roedden nhw’n teimlo bod eu teulu yn arbennig ac yn unigryw. Fe gawson ni luniau o deuluoedd un rhiant, gofalwyr sy’n berthnasau, teuluoedd mawr, teuluoedd lle roedd plant ag anghenion arbennig, a llawer mwy. Roedd ffocws cryf hefyd ar bwysigrwydd a chynhwysedd y teulu estynedig, oedd yn cynnwys rhieni cu, cefndryd, a hyd yn oed anifeiliaid anwes.
Fe gawson ni sawl cynnig oedd yn cydnabod gwaith a chyswllt rhyfeddol siblingiaid yn eu rôl fel gofalwyr ifanc.
Er bod yr enillydd wedi’i ddewis ar hap, fe wnaeth cynnig Gavin ein cyffwrdd yn fawr. Y teitl oedd “Atgofion arbennig – Munudau teulu” – Roedd yn syml, ond yn llawn emosiwn, ac yn crisialu’n berffaith thema’r gystadleuaeth, felly rydyn ni’n gyffrous iawn i’w rannu gyda chi nawr.
Diolch i bawb a fu’n cystadlu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth ac yn falch o helpu i chwyddo lleisiau rhieni.
I weld yr arddangosfa lawn, ewch i: Plant Yng Nghymru | Cystadleuaeth Llun Tachwedd 2024
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Hyb Cyswllt Rhieni Cymru