Gofynnodd Cyswllt Rhieni Cymru ‘Fel rhiant, beth yw’r prif faterion sy’n wynebu plant ar hyn o bryd? defnyddio arolwg Mentimeter ar-lein.
Cawsom ymateb gwych gan rieni ledled Cymru gyda 166 o rieni yn rhannu dros 400 o faterion yr oeddent yn teimlo eu bod yn effeithio ar eu plant. Rydym nawr yn lansio'r ffeithlun newydd hwn sy'n dangos y prif faterion sydd wedi'u nodi.
Mae rhieni wedi dweud wrthym mai dyma’r prif faterion sy’n eu hwynebu ac mae’r rhain wedi’u rhannu â Llywodraeth Cymru. Mae llais rhieni yn bwysig ac mae angen i ni barhau i glywed ganddyn nhw i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei chynnig ar yr amser iawn.
I gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael ewch i: Plant yng Nghymru | Hyb Cyswllt Rhieni Cymru