Yn dilyn rhyddhau eu harolwg yn llwyddiannus yn gynharach eleni, cafodd grŵp Ymchwil gan Gymheiriaid Plant yng Nghymru wahoddiad i gyflwyno’u gwaith mewn cynhadledd o dan arweiniad ieuenctid yn Glasgow.

Nod y gynhadledd, a drefnwyd gan Plant yng Ngogledd Iwerddon, oedd dod â gwahanol sefydliadau o’r Deyrnas Unedig ynghyd i rannu eu prosiectau cyfredol a darnau allweddol o’u gwaith. Roedd y materion a drafodwyd eleni yn cynnwys canlyniadau arolwg costau byw a gynhaliwyd gan CiNI yn ogystal â gwaith y Gymdeithas Fwyd ar gynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd. Hefyd, bu grŵp Newid Ein Byd Plant yn yr Alban yn rhannu’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer eu Byrddau Cynghori nhw.  

Aeth pum aelod ifanc o’r Grŵp Ymchwil gan Gymheiriaid, yng nghwmni staff Plant yng Nghymru, i’r digwyddiad i gyflwyno adroddiad interim ar eu prosiect diweddaraf, sy’n ymchwilio i’r rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio bod yn eco-gyfeillgar.

Bu’r grŵp yn esbonio eu proses ymchwil a ddechreuodd gydag arolwg yn targedu plant a phobl ifanc, gyda’r canlyniadau’n cael eu harchwilio trwy grwpiau ffocws. Aethant ati i gyflwyno’u canfyddiadau hyd yn hyn a rhoi diweddariad ar eu gwaith dadansoddi thematig sy’n parhau.

Yn y sesiwn holi ac ateb yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd aelod o’r gynulleidfa beth oedd gobeithion y grŵp o ran y canfyddiadau a pha ddylanwad, yn eu barn nhw, y byddai’r gwaith yn ei gael ar lefel wleidyddol. Yn eu hesboniad arbenigol, dywedodd y grŵp mai eu nod pennaf oedd dangos bod pobl ifanc nid yn unig yn awyddus i fod yn gynaliadwy ond eu bod hefyd yn ymwybodol o’r holl rwystrau sy’n eu hwynebu pan fyddant yn ceisio gwneud mwy nag ailgylchu yn unig.

Dywedon nhw y byddent yn hoffi i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi yn sgîl y gwaith ymchwil ac edrych ar sut y gallan nhw gynnig gwell cefnogaeth i bobl ifanc fod yn gynaliadwy, boed trwy ddarparu cyllid ychwanegol neu ragor o ymgyrchoedd i’w dysgu sut i wneud mwy.   

Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, gwnaeth ein gwirfoddolwyr ifanc y sylwadau canlynol:

  • "Wnes i wir fwynhau cwrdd â gwahanol ymchwilwyr ifanc a gweld dinas Glasgow, rwy’n credu ein bod ni wedi gweithio’n arbennig o dda fel tîm a chyflwyno ein gwaith mewn dull unedig."
  • "Roedd yn ffordd wych a difyr o ddysgu am amrywiaeth o bynciau a rhannu barn â phobl eraill."
  • "Roedd cwrdd â phobl ifanc eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thrafod y gwahanol faterion sy’n effeithio arnyn nhw yn eu hardaloedd yn ddiddorol dros ben."

Y tu hwnt i’r cyflwyniad, cymerodd y bobl ifanc ran hefyd mewn gweithgareddau torri’r garw a buont yn rhannu eu barn ar wahanol faterion yn amrywio o brydau ysgol am ddim i wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Yn ogystal, cawson nhw rwydweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc eraill a dysgu am y systemau addysg a budd-daliadau gwahanol sydd ar waith yn y pedair gwlad.

Mae gwirfoddolwyr y Grŵp Ymchwil gan Gymheiriaid yn gyffrous ynghylch edrych ymhellach ar eu canfyddiadau ac maen nhw’n cynllunio i ryddhau adroddiad cynhwysfawr erbyn diwedd y flwyddyn. Cadwch eich llygaid ar agor am ragor o ddiweddariadau yn ystod y misoedd nesaf!

 

Glasgow Youth Conference Train Ride
Glasgow Trip
Glasgow Youth Conference Presentation