Fel clymblaid o elusennau plant sy’n gweithio yng Nghymru, rydyn ni’n galw ar yr holl bleidiau i roi blaenoriaeth i fabanod, plant a phobl ifanc yn ystod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ac wedi hynny.
Rydyn ni’n gofyn i bob plaid wleidyddol ymrwymo i bolisïau uchelgeisiol sy’n gwella bywydau pob plentyn a theulu yng Nghymru, yn arbennig y mwyaf difreintiedig a bregus; yn mynd i’r afael â newid hinsawdd; sy’n dileu tlodi plant ac sy’n amddiffyn hawliau dynol pob plentyn.
Gall Cymru ymfalchïo yn ei thraddodiad o arddangos ymrwymiad i hybu hawliau a llesiant pob plentyn, a gwella bywydau plant, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus. Rhaid i Lywodraeth nesaf San Steffan sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i bob penderfyniad ac yn cael blaenoriaeth lawn.
Rhoi Plant yn Gyntaf: Maniffesto ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru