Calling all new voters: Now is the perfect time to…
A new Welsh Government campaign, launched on Monday, 15 February 2021, is encouraging new groups of people resident in Wales to make their voices heard in upcoming elections.
Mae Plant yng Nghymru, ar y cyd ag elusennau plant cenedlaethol blaenllaw yng Nghymru, wedi lansio maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021. Nod y maniffesto yw sicrhau bod hawliau plant yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru.
Rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i’r canlynol:
Nod ein galwadau yw sicrhau bod:
Mae’r maniffesto yn cyflwyno pedwar maes blaenoriaeth, gan gynnwys cryfhau strwythurau cenedlaethol yn y Llywodraeth a’r Senedd, Cryfhau strwythurau lleol a rhanbarthol, Buddsoddi mewn Plant a’r ymateb i Covid-19. Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru:
“Mae’r penderfyniadau a wnaed mewn ymateb i COVID-19 wedi cael effaith ddwys ar blant, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer yn wynebu rhwystrau sylweddol cyn dyfodiad y pandemig. Wrth i bleidiau gwleidyddol baratoi i gyhoeddi eu blaenoriaethau i’r etholiad yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw sicrhau eu bod nhw’n rhoi plant yn gyntaf, ac yn creu Cymru sy’n wirioneddol addas ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag yw eu cefndir, eu sefyllfa neu eu priodweddau. Wrth i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf erioed, bydd eu materion nhw gymaint â hynny’n anoddach eu hanwybyddu. Rydyn ni’n galw ar arweinwyr pob plaid i wneud plant yn ganolog i’r Llywodraeth nesaf, a chyflawni’r 4 maes blaenoriaeth rydyn ni wedi’u cyflwyno gyda’n partneriaid yn y maniffesto ar y cyd a gyhoeddwyd heddi”
Mae’r maniffesto llawn ar gael yma:
Rhoi Plant yn Gyntaf: Maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021
A new Welsh Government campaign, launched on Monday, 15 February 2021, is encouraging new groups of people resident in Wales to make their voices heard in upcoming elections.