Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn dal i bryderu’n fawr bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel, a bod disgwyl iddynt gynyddu’n sydyn yn y dyfodol agos, wrth i lawer mwy o blant a’u teuluoedd gael trafferth i dalu am gostau ac anghenion beunyddiol sylfaenol. Bydd llawer o blant wedi cael bod eu sefyllfa wedi
gwaethygu’n sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i effaith economaidd COVID 19, gan fod yr argyfwng wedi gwaethygu anghydraddoldebau oedd yn bodoli ymlaen llaw.
Mae’r ffigurau cyn Covid-19 yn dangos bod mwy na 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mewn rhai etholaethau mae’r ffigur hwn yn codi i 1/3 o’r holl blant. Dywedir bod yn agos at hanner yr holl blant yn byw mewn tlodi mewn rhai wardiau etholiadol. Mae adroddiadau annibynnol yn amcangyfrif y gallai fod o leiaf 50,000 mwy
o blant Cymru mewn tlodi erbyn 2021. Yn wyneb y galw digynsail am becynnau bwyd argyfwng, lefelau cynyddol o ddiweithdra ac ofnau ynghylch mwy o ddyled, mae’n debygol iawn y bydd caledi ariannol wedi cynyddu ymhellach erbyn adeg Etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) mae gan bob plentyn hawl i safon byw sy’n ddigonol, a dylai pob plentyn gael dweud ei ddweud mewn penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt. Rydym ni’n credu y gallai ac y dylai Cymru wneud mwy â’r pwerau fydd gan lywodraeth nesaf Cymru. Rydym ni’n credu y dylai atal a thaclo tlodi plant fod yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru ac ar gyfer yr holl bleidiau gwleidyddol yn nhymor nesaf y Senedd.
Gweler ein Etholiadau Senedd – Tlodi Plant: Maniffesto tuag at Ddileu 2021 yma: ECPN Manifesto 2021 Welsh