Gall gwisg ysgol helpu i greu ymdeimlad o gymuned, perthyn a hunaniaeth. Gall hefyd helpu i leihau arwyddion gweladwy incwm is a thlodi, gan leihau stigma, embaras a bwlio cysylltiedig â thlodi.   

Fodd bynnag, i lawer o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, mae gwisg ysgol yn rheolaidd yn achosi straen, pryder a bwlio. 

Lle mae teuluoedd yn methu fforddio prynu’r wisg gywir, caiff dysgwyr yn aml eu bwlio a’u hynysu gan eu cyfoedion, a gall hynny arwain at fwy o absenoldeb, datgysylltu a cholli cymhelliad.   

“Tase gwisg ysgol yn blaen, heb fathodynnau, bydde fe’n rhatach ac yn haws i fwy o bobl gael gafael arno fe. Gallai ysgolion hyd yn oed werthu bathodynnau i’w smwddio ar y dillad, fel bod nhw’n costio llai, achos mae gorfod prynu o siop gwisg ysgol yn ddrud iawn.” (10-13oed)

Trwy’r briffiad yma, Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol, a’r astudiaethau achos sy’n cyd-fynd ag e, rydyn ni am helpu ysgolion i roi newidiadau ar waith yn eu polisïau a’u hymarfer presennol o ran gwisg ysgol, trwy sicrhau gwell dealltwriaeth o’r anawsterau fforddiadwyedd, cynyddu ymwybyddiaeth o effaith polisïau presennol ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a rhannu arferion sy’n cael eu rhoi ar waith gan ysgolion i ymdrin â’r materion hyn.

Cliciwch yma i weld y briffiad Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol: Nodyn briffio Cefnogi Newid 

“Mae ein hysgol ni yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod plant sydd mewn tlodi ddim yn sefyll allan yn amlwg. Mae gwisg ysgol ar gael am ddim i blant sydd angen hynny, a phlant eraill sydd wedi cyfrannu’r eitemau.” (10-13oed)

I weld yr astudiaethau achos cyfredol o ysgolion ar draws Cymru, a chael mynediad at y templed sy’n cyd-fynd â nhw, cliciwch ar y ddolen sy’n dilyn: Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol

Ydy eich ysgol chi wedi gwneud newidiadau cadarnhaol ynghylch gwisg ysgol? Os hoffech chi eu rhannu nhw gyda’r prosiect, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk