Mae’r sector Magu Plant a Chymorth i Deuluoedd yng Nghymru o dan bwysau gormodol ac yn cael ei lethu. Mae’r staff yn cael eu gorfodi i symud i ffwrdd oddi wrth dull gweithredu ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, ac yn cael eu gadael yn gorfod brwydro yn erbyn argyfyngau’n ddi-baid. Mae llesiant y staff yn destun pryder aruthrol wrth i’r staff dderbyn mwy o gyfrifoldeb a dod o dan fwy o bwysau, yn aml y tu allan i’w cylch gorchwyl penodol.
Bu Rhwydwaith Cenedlaethol yr Arweinwyr Strategol ar Fagu Plant a Chymorth i Deuluoedd yn rhannu eu barn ar gyflwr y Sector Magu Plant a Chymorth i Deuluoedd yng Nghymru. Dyma'r ail adroddiad i gael ei ryddhau, ac nid yw’r sefyllfa gyffredinol yng Nghymru wedi newid llawer ers 2023 – yn wir mae llawer o faterion wedi dwysáu.
Mae’r sector yn gwneud eu gorau i ymateb yn gadarnhaol, ac mae llawer o Awdurdodau Lleol wedi mynd ati’n rhagweithiol i gael hyd i ffyrdd creadigol o ddelio â materion a chefnogi teuluoedd gystal ag y gallan nhw.
Yn y pen draw, fodd bynnag, mae’r sector yn methu ymateb i’r galw ac i gymhlethdod yr achosion sy’n dod atynt, ac maen nhw’n pryderu ynghylch eu gallu i gyflwyno’r gwasanaeth ataliaeth gynnar ac ymyrraeth maen nhw’n cael eu talu i’w ddarparu.