shutterstock_306948263.jpg

Eleni daeth y Prosiect Pris Tlodi Disgyblion, a gafodd ei ailenwi’n ddiweddarach yn Rhaglen Taclo Effaith Tlodi ar Addysg, i ben yn swyddogol.

Cychwynnodd y prosiect yn 2019, a chafodd ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd meddwl a llesiant emosiynol holl blant Cymru.

Y nod oedd creu adnoddau i’r holl ysgolion a gynhelir a lleoliadau addysg ar draws Cymru,  er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd dysgwyr o aelwydydd incwm isel, gan ddangos effaith tlodi ar fywydau beunyddiol plant.

Bydden nhw hefyd yn darparu atebion gweladwy, cost-effeithiol fyddai’n helpu i ddileu rhwystrau dysgu sy’n gysylltiedig â thlodi a gwella llesiant dysgwyr.

Er bod y rhaglen wedi dod i ben yn 2024, mae’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion wedi cael eu diweddaru’n llwyr i adlewyrchu’r hinsawdd tlodi plant yng Nghymru ar hyn o bryd a rhoi cyngor ar hynny.

Mae’r adnoddau di-dâl hyn yn cynnig camau ac atebion ymarferol ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu eich lleoliad trwy eich cefnogi i ystyried newid a’i roi ar waith.   

Mae’r canllawiau ar-lein yn dal ar gael, bellach gydag adnoddau ychwanegol sy’n cynnwys:

  • Pecyn offer llawn i’ch helpu i roi’r canllawiau ar waith yn eich ysgol neu eich lleoliad
  • Lliniaru effaith tlodi - canllaw bach ar addysg STEM
  • Canllaw Gwybodaeth ac Ymarfer gyda chyngor a chanfyddiadau o ysgolion a lleoliadau ar draws Cymru sydd eisoes wedi bod yn defnyddio’r adnoddau yn llwyddiannus

Gallwch weld y canllawiau Pris Tlodi Disgyblion hefyd trwy ddefnyddio Hwb Llywodraeth Cymru, yma: Repository - Hwb

​​​