Mae’r mislif yn naturiol. Nid yw’n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael.
Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch.
Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif.
Pam ein bod am ddod â thlodi mislif i ben
Mae cael gwared o dlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at:
- golli addysg
- absenoldeb o’r gwaith
- tynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol
Mae tawelwch, stigma a thabŵau am y mislif wedi para gormod o amser. Ni ddylai menywod, merched a’r rhai sy’n cael mislif gael eu hamddifadu rhag cael y cymorth a’r nwyddau sydd eu hangen arnynt.
Mae tudalen we bwrpasol wedi’i datblygu sy’n cysylltu â’r cynllun ac adnoddau a gwybodaeth am y grant urddas mislif.