Ar 25 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i argymhellion Pwyllgor CCUHP, ynghyd â fersiwn pobl ifanc o'r ddwy ddogfen.  

Cafodd polisïau, rhaglenni a gwaith uniongyrchol Plant yng Nghymru gyda phlant a phobl ifanc eu cydnabod drwy gydol yr adroddiad, gan gynnwys cyflwyniad y Gweinidog newydd.

Dywedodd Sean O'Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru mewn ymateb i'r adroddiad:  

“Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a gyhoeddwyd y llynedd, sy'n nodi'r camau y mae'n eu cymryd ar hyn o bryd, ac y bydd yn eu cymryd, i gyflawni ei rhwymedigaethau i hybu CCUHP a hawliau plant yng Nghymru. Ochr yn ochr â'n haelodau, roeddem yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth helpu i lunio ei hymateb, drwy roi cyngor a chynnig sylwadau ar ddrafftiau cynharach drwy ein Grŵp Monitro CCUHP Cymru a'n hymgysylltiad fel aelodau o'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant.  

Rydym yn arbennig o falch bod yr adroddiad yn cydnabod y cyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc yn ystod y cyfnod adrodd ac ers hynny, yn ogystal â chydnabod llawer o'n polisïau a rhaglenni gyda babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.  

Fel yr amlygodd ein hadroddiad ar Gyflwr Hawliau Plant yng Nghrymu, mae llawer y gallwn fod yn falch ohono yng Nghymru, a nifer o gyflawniadau y dylid eu cymeradwyo. Fodd bynnag, mae ein hargymhellion ni ac argymhellion y Cenhedloedd Unedig yn atgoffwr brawychus i Lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU fod angen cynnydd pellach a chyflymach ar unwaith os yw bob baban, plentyn a pherson ifanc am oroesi a ffynnu yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, plant a phobl ifanc, ein haelodau ac eraill sy'n gwneud penderfyniadau i helpu i wneud yn siŵr fod y gwaith hwn yn arwain at newid cadarnhaol a pharhaus”. 

 Welsh-Gov-logo.png