
Mae’r bobl ifanc sy'n ymwneud â Rhwydwaith Llais Ieuenctid wedi parhau i gael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth am eu hymgyrchoedd i annog pobl ifanc i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.
Yn dilyn lansiad podlediad Rhwydwaith Llais Ieuenctid yn y Digwyddiad Trafod Bord Gron yn Adeilad y Pier Head ym Mae Caerdydd ar y 12fed o Fawrth a noddwyd gan Sioned Williams AS ac a fynychwyd hefyd gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol roedd y bobl ifanc a fynychodd wedi synnu, ac wrth eu boddau, i dderbyn llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y llythyrau unigol yn diolch i’r bobl ifanc am fynychu’r digwyddiad, ac yn canmol y podlediad a’r ffordd bwerus y mynegwyd y negeseuon ynghylch sut gall pobl ifanc gymryd rhan a chael eu clywed. Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud y byddai hi’n annog aelodau eraill o’r Senedd i wrando ar y podlediad. Anogodd y Gweinidog y bobl ifanc hefyd i barhau â’u gwaith i annog eraill, o bob oed, i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.
Mewn prosiect cysylltiedig hefyd cynhyrchodd Pobl Ifanc o’r Rhwydwaith waith celf ar ffurf graffiti i hyrwyddo’r neges “Fy Llais, Fy Mhleidlais”. Aeth y Bobl Ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect hwn â’u neges i’r Senedd ddydd Mercher 16eg Ebrill. Cafodd y gwaith celf a'r neges eu harddangos gyda balchder y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad yn ystod sesiwn tynnu lluniau.
Mae cefndir y prosiectau hyn i’w weld yn y stori newyddion hon.
Gwranda ar y podlediad yma.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Llais Ieuenctid cysyllta â Russell Baker.