Mae’r Ganolfan Effaith Ieuenctid wedi cyhoeddi adroddiad sy’n ffurfio rhan o’u prosiect Llais, Pŵer, a Dylanwad Ieuenctid, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Sefydliad Paul Hamlyn, BBC Plant mewn Angen a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Symbyliad y gwaith hwn yw cefnogi, llywio, a dylanwadu ar waith llais ieuenctid mwy ystyrlon yn y dyfodol, a hynny ar draws y weledigaeth mae’r arianwyr yn ei rhannu ar gyfer pobl ifanc, ac yn ehangach ar draws cymdeithas.
Cyfranogiad Pobl Ifanc mewn Penderfyniadau: Adroddiad Arolwg y Deyrnas Unedig 2022
Mae pedwar prif nod i’r prosiect:
• Cynyddu dealltwriaeth: Deall yn well weithgaredd cyfredol llais ieuenctid yn y Deyrnas Unedig o ran ble a sut mae pobl ifanc yn cael llais, pa bobl ifanc sy’n cael mynediad i’r sianeli hyn a beth maen nhw’n dweud
• Cynyddu cwmpas: Sicrhau bod mwy o bobl ifanc, yn arbennig y rhai sydd ddim yn cael eu clywed yn aml, fel grwpiau sydd wedi’u cau allan neu eu gwthio i’r cyrion, neu grwpiau llai adnabyddus, yn cael gwrandawiad a dylanwad mewn prosesau gwneud penderfyniadau
• Gwella tegwch: Deall yn well y rhwystrau i ymgysylltiad, a thystiolaeth o feysydd blaenoriaeth lle mae angen i ni ganolbwyntio ar fynediad cyfartal i bobl ifanc, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn gallu cael dylanwad
• Gwella mynediad at wybodaeth: Sicrhau bod ymarferwyr a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at wybodaeth am weithgaredd mewnwelediad a llais ieuenctid yn genedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn trafod canfyddiadau’r arolwg o’r Deyrnas Unedig gyfan. Gwahoddodd yr arolwg sefydliadau i ymateb i gwestiynau am eu hymarfer i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc mewn penderfyniadau y tu allan i’w sefydliad eu hunain, gan gynnwys:
• Y grwpiau o bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw;
• Y math o weithgareddau mae pobl ifanc yn ymwneud â nhw er mwyn eu galluogi i gyfranogi mewn penderfyniadau;
• Yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd gan sefydliadau ar gyfer y gwaith yma; a’r
• Canfyddiadau o ran beth sy’n angenrheidiol i gefnogi’r gwaith yma’n well. Roedd yr arolwg ar agor ar gyfer ymatebion rhwng 01 Mehefin ac 14 Awst 2022. Mae’n cyfuno ymatebion gan 269 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda phobl ifanc.