Yn ystod y 15 mis diwethaf, mae grŵp o’n gwirfoddolwyr Cymru Ifanc wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i gydgynhyrchu fersiwn ddwyieithog, hawdd ei darllen o’r Cynllun Gwella Cyllideb (CGC). Mae’r adnoddau a gynhyrchwyd yn ymgysylltu â phobl ifanc i’w grymuso i leisio’u persbectif a dylanwadu ar newidiadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau.
Pan ofynnodd Llywodraeth Cymru gyntaf i’n Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc oedden nhw eisiau bod yn rhan o hynny, roedd ein gwirfoddolwyr yn awyddus i gychwyn arni. Wrth baratoi, fe wnaethon nhw gwrdd â nifer o weision sifil a swyddogion o wahanol rannau o Lywodraeth Cymru i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn fyddai’n rhan o’r prosiect.
Y nod oedd creu animeiddiad a thaflen a fyddai’n esbonio Cynllun Gwella Cyllideb (CGC) pum mlynedd Llywodraeth Cymru a’r pynciau sy’n cael eu cwmpasu ganddo mewn modd hwylus. Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu deall ac ymgysylltu â’r eitemau hyn, bydden nhw’n cael eu creu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.
Ar 27 Chwefror 2024, cyfarfu grŵp CGC Cymru Ifanc â’r staff o Lywodraeth Cymru y buon nhw’n cynhyrchu’r adnoddau gyda nhw, yn ogystal â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, i ddathlu eu gwaith a lansio’r animeiddiad yn swyddogol.
Rydyn ni’n gyffrous ein bod yn awr yn gallu rhannu hwn gyda chi: Animeiddiad ar Gynllun Gwella'r Gyllideb (youtube.com)
Mae ein gwirfoddolwyr ifanc wedi gweithio’n galed i gydgynhyrchu’r deunyddiau hyn, gan gyfathrebu’n rheolaidd â Thîm Dylunio Canolog Llywodraeth Cymru i fraslunio, cynllunio a datblygu taflen a’r animeiddiad ei hun.
Mae’r daflen i’w gweld yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2024-02/cynllun-gwellar-gyllideb-2024-2025-fersiwn-gymunedol.pdf
Dywedodd Arthur Templeman-Lilley, un o’r gwirfoddolwyr ifanc:
"Cydgynhyrchu yw un o’r ffyrdd mwyaf cynhyrchiol i bobl ifanc gydweithio â gweithwyr proffesiynol er mwyn cyflawni nod a rennir. Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, ac yn dod â phersbectif ffres wrth lunio penderfyniadau a byrddau creadigol. Pan roddir pwys cyfartal ar eu lleisiau nhw a lleisiau’r oedolion yn y stafell, mae gennym ni’r gallu i greu cynnyrch terfynol sy’n crynhoi amrywiol safbwyntiau, ac yn grymuso pobl ifanc yn y broses, gan roi mynediad i ni i rywbeth sy’n un o’n hawliau sylfaenol."
Ddylai gwybodaeth werthfawr fel y CGC ddim bod yn anodd ei chyrchu. Mae pobl ifanc yn haeddu cael eu cynnwys a chael cyfle i ddysgu am bynciau a allai yn y pen draw effeithio ar eu bywydau pob dydd. Dyna pam buon ni’n datblygu’r adnoddau hyn.
Oherwydd eu bod wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein gwirfoddolwyr ifanc, rydyn ni’n gobeithio bydd ein hanimeiddiadau a’n taflenni yn helpu pobl ifanc, ac unrhyw un sydd â diddordeb, i ddysgu am y CGC a’r pynciau cymhleth sy’n rhan o hynny.
Hoffen ni ddiolch i’n gwirfoddolwyr ifanc am eu holl waith caled ar y prosiect yma. Hoffen ni ddiolch hefyd i bawb o Lywodraeth Cymru a fu’n helpu i greu’r adnoddau hanfodol hyn, yn arbennig Rhian Williams, Lisa Daniels-Griffiths, a phawb yn y Tîm Dylunio Canolog.