Mae ein tîm Cymru Ifanc wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu digwyddiadau cyffrous i’n gwirfoddolwyr ifanc eleni, ac rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod calendr Cymru Ifanc bellach yn swyddogol yn fyw. Cewch fanylion am ddigwyddiadau sydd i ddod, cyfnodau preswyl, sesiynau sefydlu i wirfoddolwyr newydd a chyfarfodydd ein Grwpiau a’n Byrddau ymgynghorol thematig.

Lawrlwythwch gopi yma

 

Calendr Cymru Ifanc Rhan 1
Calendr Cymru Ifanc Rhan 2

 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaenau ac yn darparu cyfleoedd i’n gwirfoddolwyr ifanc drafod y pynciau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Rydyn ni wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau, felly os byddwch chi’n dod i rywbeth sydd ar y calendr, dewch draw i ddweud helô. Bydd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi i’n tîm.

Fel arall, os ydych chi rhwng 11 a 25 oed, ac rydych chi wedi sylwi ar rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, rhowch eich enw i lawr heddiw i fod yn wirfoddolwr Cymru Ifanc a chwarae rhan. Byddwch chi’n cael cyfle i wneud ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn gweithdai a lleisio barn ar faterion cymdeithasol rydych chi’n teimlo’n angerddol yn eu cylch.

Mae cofrestru wedi agor hefyd ar gyfer Sesiwn Breswyl mis Gorffennaf, sy’n un yn unig o’r llu o ddigwyddiadau y gall ein gwirfoddolwyr ifanc gymryd rhan ynddyn nhw a’u mwynhau yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch cyn 28 Mehefin i ymuno yn yr hwyl.

Rhowch eich enw i lawr heddiw i ddod yn un o wirfoddolwyr Cymru Ifanc ac ymuno yn yr holl weithgareddau difyr rydyn ni wedi’u cynllunio ar gyfer eleni.