Fel person ifanc sy’n gwirfoddoli i Cymru Ifanc, rydw i wedi ymwneud ag amrywiol brosiectau a byrddau sy’n cefnogi rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar waith yng Nghymru. Yn ystod y misoedd diwethaf, gyda nifer o wirfoddolwyr eraill, fu fues i’n datblygu cyflwyniad a roddwyd i Gyfarfod y Bwrdd Trosolwg a Chyflawni. Rhoddwyd y cyflwyniad hwn i Lynne Neagle, AS, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Jayne Bryant, AS, oedd yn Weinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar y pryd, a chynrychiolwyr o’r sectorau iechyd ac addysg ar draws Cymru.  

Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ddatblygiad fframwaith “NYTH / NEST” ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, a’n hymwneud ni â hynny a mentrau eraill fel y “Dull Gweithredu Ysgol Gyfan”.  

Yn ystod y cyflwyniad fe fuon ni’n egluro’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol, sy’n fframwaith arfer gorau o ran sut caiff gwybodaeth ei rhannu a’i thrafod gyda phobl ifanc, i sicrhau adborth a chyngor. Fe fuon ni’n ystyried hefyd i ba raddau rydyn ni’n teimlo bod ein hymwneud â iechyd meddwl a llesiant yn llwyddo, o ran plant a phobl ifanc ac effeithiau cadarnhaol ein cyfranogiad, gan gynnwys meithrin hunan-barch a sgiliau cyfathrebu. Fe wnaethon ni gyflwyno hefyd beth hoffen ni weld yn y Strategaeth Iechyd Meddwl, yn arbennig bod staff sy’n ymwneud â phobl ifanc yn ymwybodol o sbardunau ac yn sensitif ynghylch y rheiny sydd ag anableddau gweladwy ac anweladwy, a bod staff yn cymryd diddordeb ac yn adlewyrchu ein profiadau byd go iawn, ac yn ein cefnogi yn ein profiadau.  

I gloi fe fuon ni’n trafod ein Prif Flaenoriaethau fel Pobl Ifanc yng nghyswllt iechyd meddwl, sef:  

  • Ataliaeth, ymyrraeth gynnar ac ymyriadau fel pwyntiau gwahanol ar daith iechyd meddwl yr unigolyn. 

  • Cysondeb gofal a staff, er mwyn osgoi’r teimlad o ailadrodd hanes yn barhaus. 

  • Gadael i blant a phobl ifanc fod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal eu hunain lle bo hynny’n bosib.  

  

Rebecca (Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc)