Y System ADY Newydd: Cefnogi Plant a Theuluoedd o AAA i ADY
Mae Plant yng Nghymru wedi lansio eu Rhaglen Gyfranogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Ar ôl nodi ystod o ysgolion arloesi, bydd Plant yng Nghymru yn datblygu ac yn sefydlu grŵp grymus o Lysgenhadon Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a fydd yn cwmpasu Cymru gyfan.
Bydd y rhaglen gyfranogi ADY yn caniatau'r canlynol:
- Bod barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc yn cael gwrandawiad wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut i helpu plant a phobl ifanc
- Rho'r cymorth cywir ar waith yn gyflym er mwyn helpu plant a phobl ifanc ag ADY
- Bod pawb yn cydweithio i helpu plant a phobl ifanc ag ADY, gan gynnwys addysg a gwasanaethau iechyd
- Ymgysylltu a grymuso plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ar bob cam o'u haddysg er mwyn iddynt fedru dylanwady ar benderfyniadau ynghylch eu bywydau
- Cynyddu hawliau plant i gyfranogi a'r elfennau o'r Côd sy'n ywmneud â hawliau plant
- Rhoi sylw i'w barn mewn modd ystyrlon wrth gynllunio a chyflwyno polisïau a gwasanaethau. Gwreiddio hawliau plant wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.