Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol sy'n rhwymo'r gyfraith sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, beth bynnag ei hil, crefydd neu alluoedd.
Mae 196 o wledydd ar draws y byd wedi llofnodi’r cytundeb, a Chymru oedd y wlad gyntaf oll yn y Deyrnas Unedig i wneud egwyddorion CCUHP yn rhan o’r gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu CCUHP yn sail ar gyfer ei holl waith, ac mae erthyglau CCUHP yn cael eu crynhoi yn y Saith Nod Craidd ar gyfer plant a phobl ifanc.
Daeth ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)’ hefyd i rym ym mis Mai 2012, ac mae’n adeiladu ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu, sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae’r gyfraith hon yn sicrhau bod Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion Cymru bob amser yn ystyried hawliau plant fel y’u nodir yn CCUHP.
Cydgynhyrchodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc y darlun isod, sy'n cynnwys y CCUHP yn eu geiriau eu hunain.
Mae holl erthyglau CCUHP i’w gweld yma.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: young.wales@childreninwales.org.uk