15/06/20

Neges gan Owen Evans, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Neges gan Owen Evans, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Mae llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd yn fawr ac yn teimlo’n ostyngedig yn wyneb gweithgaredd y mudiad Black Lives Matter/Mae Bywydau Du o Bwys wedi i George Floyd gael ei lofruddio gan yr heddlu yn Minnesota. Mae Plant yng Nghymru yn sefyll yn gadarn a phendant o blaid Black Lives Matter ac yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio yn erbyn hiliaeth yng Nghymru ac ar draws y byd.

Ond mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Rydyn ni’n gwybod bod materion hiliaeth a rhagfarn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yma yng Nghymru.

Mae’r adroddiad diweddar gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth  yn tynnu sylw at yr hiliaeth a’r rhagfarn mae plant a phobl ifanc yn eu profi mewn ysgolion ledled Cymru. Mae hwn yn wirionedd creulon. Mae’n rhaid i bawb ohonon ni wneud mwy.  Fel sefydliad rydyn ni wedi ymrwymo i weithredu, nid yn y tymor byr yn unig, ond i’r tymor hir. Byddwn ni’n myfyrio ac yn cael sgyrsiau gonest ac agored am y camau y gallwn ni eu cymryd fel elusen.

Dyma rai o’r camau cychwynnol y byddwn ni’n eu cymryd:
1. Byddwn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein Polisi Cydraddoldeb, gan sicrhau ffocws o’r newydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad ar draws ein holl weithgaredd.
2. Byddwn ni’n sefydlu gweithgor mewnol i gynnal adolygiad o bob agwedd ar ein gwaith, gan gyflwyno argymhellion mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad, gyda dull gweithredu seiliedig ar hawliau.
3. Ac rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth gyda’n haelodau a’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw ledled Cymru er mwyn cymryd camau i ymdrin â materion hiliaeth gyda’n gilydd.

Mae’r camau a restrir uchod yn fan cychwyn, yn hytrach nag yn nod ynddyn nhw eu hunain. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal deialog parhaus, a bydden ni’n croesawu’n fawr unrhyw feddyliau, sylwadau, awgrymiadau neu syniadau.

Owen Evans

Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Newyddion sy’n gysylltiedig

Child Protection.png

Fy mywyd ar y trywydd iawn! Gêm newydd i weithwyr …

Children in Wales have released a new game aimed at care experienced children and young people.

Child Protection.png

Plant mewn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu ‘pryn…

Travel.png

Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Ur…