LleoliadCaerdydd – gweithio’n ystwyth gartref neu yn y swyddfa gyda disgwyliad o dreulio 2 ddiwrnod y mis yn y swyddfa.
|
Oriau Gwaith35 awr yr wythnos
|
ContractParhaol yn amodol ar gyllid
|
Graddfa Gyflog£34,680 y flwyddyn
|
Dyddiad Cau30 Ionawr 2025 |
Yn 2025, bydd Plant yng Nghymru yn lansio strategaeth 5 mlynedd y busnes a fydd yn para tan 2030. Rhan allweddol o gyflwyno’r strategaeth hon yw rôl newydd y Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, a fydd yn rhan greiddiol o ddau faes amcan:
I’n helpu i gyflawni ein nodau yn y meysydd hyn, bydd gan y Swyddog Cyfathrebu a Marchnata rôl allweddol o ran dylunio a chyflwyno ymgyrchoedd sy’n hyrwyddo cenhadaeth a gweledigaeth y sefydliad. Bydd deilydd y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu a Aelodaeth i gynllunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso cynlluniau ar gyfer ymgysylltu’n effeithiol â’r aelodau, y rhanddeiliaid a’r partneriaid tra’n gwella proffil brand a gwaith Plant yng Nghymru.
Bydd deilydd y swydd yn arwain y gwaith o farchnata elfennau allweddol o’n dull gweithredu, gan ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr sy’n darparu hyfforddiant, gwasanaethau ymgynghoriaeth a digwyddiadau i gynyddu ymgysylltiad ac incwm o’r meysydd hyn.
Bydd y gallu i sefydlu a meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ofynnol ar gyfer y rôl hon a bydd sgiliau rhwydweithio effeithiol yn hanfodol.