Gweithiwr Ymgysylltu a Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc

Lleoliad

Caerdydd – gweithio ystwyth o’r cartref neu yn ein swyddfa gyda chyfarfodydd misol o leiaf wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd

 

Oriau

28 awr yr wythnos

 

Cytundeb

Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2025, gydag estyniad yn bosibl

 

Cyflog

£33,864 y flwyddyn pro rata

 

Dyddiad Cau

9am dydd Llun 15 Ionawr 2024

 

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn deinamig ac egnïol i ddarparu arweinyddiaeth ysbrydoledig i Blant yng Nghymru wrth gyflawni Rhaglen Wirfoddoli Cymru Ifanc.

Prif bwrpas y rol:
 

  • Cyflwyno ymgyrch recriwtio sy’n ennyn diddordeb a goruchwylio’r broses recriwtio ar gyfer Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, gyda ffocws ar dderbyn rhai yn flynyddol yn y gwanwyn, yn ogystal â rhaglen dreigl o ymuno.
  • Cyflwyno cynllun hyfforddi a sefydlu difyr, sy’n rhoi boddhad, i’n holl wirfoddolwyr. Gall hyn gynnwys proffiliau unigryw er mwyn sicrhau cyfoeth o gyfleoedd.
  • Cynllunio a chyflwyno cyfleoedd i ddysgu ac ymgysylltu trwy sesiynau preswyl chwarterol a’n Gŵyl Cymru Ifanc flynyddol.
  • Sicrhau cynhwysiad y cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad iddynt trwy weithio gyda phartneriaid i ddileu rhwystrau i gyfranogiad yn Rhaglen Wirfoddoli Cymru Ifanc.

Pecyn ymgeisio isod