Gweithio ystwyth gartref neu yn y swyddfa (Swyddfa Plant yng Nghymru, Caerdydd, swyddfeydd FAW yng Nghasnewydd, Caerdydd neu Wrecsam)
|
|
Oriau21 awr yr wythnos
|
|
ContractParhol
|
|
Cyflog£25,750 pro rata
|
|
Dyddiad Cau4 Rhagfyr 2023
|
Cefnogi a chynorthwyo gwaith y swyddog datblygu i gyflwyno ein prosiect cyffrous sydd newydd ei ariannu gan WCVA, mewn partneriaeth â Chymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW).
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth hanfodol i sicrhau bod y rhaglen waith o brosiectau yn cael ei chyflawni’n effeithiol. Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda’r swyddog datblygu i estyn cwmpas ein model Cymru Ifanc presennol o ymgysylltu a chyfranogiad ieuenctid, i gefnogi mentrau ymgysylltiad ieuenctid FAW.
Bydd gofyn eich bod yn annog arfer cyfranogol trwy ddull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy’n canolbwyntio i raddau helaeth ar ddatblygiad sgiliau a dysgu oplant.
Byddwch yn cyfrannu at waith ehangach Plant yng Nghymru, yn arbennig ein gwaith Cymru Ifanc i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hybu a’u cynnal yng Nghymru, a bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd ystyrlon i leisio barn ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP), yn arbennig Erthygl 12, yn sbardun allweddol y tu ôl i’r gwaith hwn, a bydd angen i ddeilydd y swydd ddangos arbenigedd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi’n effeithiol a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed er mwyn llywio datblygiad polisi ac ymarfer, ochr yn ochr â grymuso plant a phobl ifanc.