Telerau ac Amodau

Darllenwch y telerau ac amodau canlynol yn ofalus gan mai nhw sy’n rheoli’r defnydd o’r wefan hon.

Eich defnydd o'r wefan hon

Mae eich defnydd o'r wefan hon yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn, sy'n dod i rym ar ddiwrnod cyntaf defnydd y wefan. Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n torri hawliau, yn cyfyngu nac yn rhwystro defnydd a mwynhad y wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad ac ataliad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon neu a allai aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, trosglwyddo deunydd anweddus neu dramgwyddus neu amharu ar lif arferol deialog o fewn y wefan hon.

Addasu'r telerau ac amodau

Mae Plant yng Nghymru yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau drwy bostio’r newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o'r wefan ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y'i diwygiwyd.

Hawlfreintiau

Plant yng Nghymru sy'n berchen ar hawlfraint y deunydd (gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, logos, ffotograffau ac ymddangosiad cyffredinol y wefan). Gwaherddir defnydd masnachol neu gyhoeddi'r deunydd gan gynnwys atgynhyrchu, storio, addasu, dosbarthu neu gyhoeddi heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Plant yng Nghymru neu, lle bo’n berthnasol, perchennog (perchnogion) yr hawlfraint berthnasol, ac eithrio at eich defnydd personol neu anfasnachol eich hun.

Cysylltau â gwefannau eraill

Nid yw Plant yng Nghymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau trydydd parti sydd wedi'u cysylltu, naill ai i neu o wefan Plant yng Nghymru, ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Dylai unrhyw wefan sydd am greu cyswllt i wefan Plant yng Nghymru, neu sydd am wneud cais i greu cyswllt iddo, gysylltu â'r gwasanaeth gwybodaeth.

Cyfyngiad ar atebolrwydd

Nid yw Plant yng Nghymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw iawndal, gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli elw, neu unrhyw iawndal o gwbl sy’n deillio o, neu sy'n gysylltiedig â defnyddio neu golli defnydd o’r wefan hon. Nid yw Plant yng Nghymru yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu'n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei gwneud ar gael yn rhydd rhag firysau neu fygiau. Mae defnydd o’r wefan hon a’r wybodaeth ar risg y defnyddiwr yn unig. Ni fydd Plant yng Nghymru, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw iawndal o gwbl sy’n deillio o’r wefan hon neu sy'n gysylltiedig â hi. Eich unig ateb anghynhwysol ar gyfer anfodlonrwydd â'r wefan hon yw rhoi'r gorau i ddefnyddio'r wefan a'r wybodaeth.

Cywirdeb cynnwys

Er y gwnaed pob ymdrech resymol i sicrhau cywirdeb y cynnwys, ni ellir cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu hepgoriad.

Sylwadau neu gwynion

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy'n codi yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y wefan at info@childreninwales.org.uk