Hyfforddiant a Digwyddiadau

Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaeth o ansawdd uchel, sy'n defnyddio adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol.

Helpu chi i gyrraedd eich potensial llawn

Mae Plant yng Nghymru yn darparu amrywiaeth o gyrsiau a digwyddiadau hyfforddi amlddisgyblaethol o ansawdd uchel gyda’r nod o hyrwyddo dull integredig ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol.

Mae ein cyrsiau a’n digwyddiadau’n tynnu ar adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol. Ein nod yw darparu cyrsiau a digwyddiadau sy’n ymarferol, yn gyfeillgar, yn ysbrydoledig, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun deddfwriaethol a pholisi Cymru, gan hyrwyddo dull gweithredu sy’n ymwneud â hawliau plant.

Gallwn ddarparu hyfforddiant ‘yn bersonol’ pwrpasol mewn lleoliad o’ch dewis, neu gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi rhithwir ar-lein byw, gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau ac offer. Mae'r sesiynau hyn yn gwbl ryngweithiol a gallant ddod ag ymarferwyr at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu heb heriau teithio.

Ein Rhaglen Hyfforddi

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig rhaglen amrywiol o gyrsiau hyfforddi agored yr ydym bob amser yn eu diweddaru a'u datblygu ymhellach i wella'ch dysgu.

Cyrsiau a Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Gweler mwy o wybodaeth am hyfforddiant a digwyddiadau a ariennir sydd gan Plant yng Nghymru i'w cynnig.

Hyfforddiant Pwrpasol

Gallwn ddarparu hyfforddiant pwrpasol sy’n cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol o ddiwallu anghenion dysgu eich sefydliad.

Ein Cyrsiau

Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaethol o ansawdd uchel. Gweler yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma

Digwyddiadau Plant yng Nghymru

Archwiliwch y digwyddiadau sydd ar y gweill gan Plant yng Nghymru.

 

Cwrdd â'n Hyfforddwyr

Mae ein cyrsiau yn tynnu ar adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol.

Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant diogelu i ymarferwyr yng Ngrwpiau A, B, C ac F, gellir ei gynnal yn bersonol neu ar-lein i ddiwallu eich anghenion.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed

Mae ein cyrsiau diogelu yn adlewyrchu gofynion o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Hyfforddiant Achrededig

 

Mae Plant yng Nghymru yn darparu rhaglenni hyfforddi achrededig mewn partneriaeth ag Agored Cymru, ein corff dyfarnu cydnabyddedig.

Gweler Ein Gweminarau Gorffennol

 

Gweld recordiadau a gweld mwy o wybodaeth am weminarau a digwyddiadau Plant yng Nghymru yn y gorffennol.