Dysgwyr – Dyma gyfle i atgyfnerthu eich dysgu yn dilyn digwyddiad hyfforddi. Bydd gofyn i chi wneud rhywfaint o waith annibynnol yn dilyn yr elfen a addysgir o'r cwrs er mwyn ennill cydnabyddiaeth ffurfiol o'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych wedi'u hennill. Byddwch yn cael cefnogaeth ac adborth gan aseswr sy'n gymwys yn y maes pwnc perthnasol. Byddwch yn derbyn tystysgrif gyda sicrwydd ansawdd trwy gorff dyfarnu allanol i helpu i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus DPP.
Cyflogwyr – Bydd ganddynt yr hyder bod yr hyfforddiant y maent yn anfon eu staff arno wedi’i sicrhau o ansawdd, ac ar ôl cwblhau darn o waith a aseswyd y bydd eu staff wedi cyflawni nifer o gredydau ar lefelau penodol a gydnabyddir ledled y DU. Gellir defnyddio'r tystysgrifau ffurfiol i ddarparu tystiolaeth i reoleiddwyr, comisiynwyr a chyllidwyr o ymrwymiad eich sefydliad i ddatblygiad staff a safonau sicrwydd ansawdd.