Natur newidiol bod yn rhiant modern

Yn y weminar hon, clywodd cynrychiolwyr gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o’r trydydd sector, y sector iechyd a’r sector statudol ynghylch sut mae anghenion rhieni a theuluoedd yn cael eu cefnogi yn y byd modern hwn.

Darparodd Anna Westall o Plant yng Nghymru grynodeb o’r rôl bwysig y mae rhieni’n ei chwarae wrth gefnogi ac amddiffyn hawliau plant, ac yna Sefydliad Nuffield a gyflwynodd ganfyddiadau eu cyhoeddiad diweddar, Time for Parents.  Yna bu Kim Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn trafod iechyd meddwl tadau yn y cyfnod amenedigol, a daeth y gweminar i ben gyda Gareth Rossiter a Tania Hayward, a gyflwynodd ar y gwaith y mae eu Dads Workers yn ei ddarparu ar draws bwrdeistref Blaenau Gwent.

“Diolch am eich amser yn rhoi’r gweminar hynod addysgiadol hwn at ei gilydd”

"Bore diddorol ac ysbrydoledig. Da cael enghraifft o arfer mor bositif."