Gweminar Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2022

Yn y weminar hon, clywodd y cynadleddwyr ganfyddiadau allweddol 6ed Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol Plant yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn rhannu profiadau a safbwyntiau ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dros 41,500 o deuluoedd ledled Cymru ac, yn bwysig, yn clywed lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc eu hunain. Mae’r adroddiadau ar gael yma: Plant yng Nghymru | Plant yng Nghymru yn lansio ei 6ed Adroddiad Canfyddiadau Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol

Mae tlodi yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau plant a theuluoedd, o fwyta i wresogi; addysg a chyfleoedd; i iechyd corfforol ac emosiynol.  Er bod canfyddiadau’r llynedd yn llwm, mae eleni’n dangos sefyllfa sy’n gwaethygu ar draws pob maes. Mae llawer mwy o deuluoedd bellach yn ei chael hi'n anodd, gydag ymarferwyr yn disgrifio'r rhai a oedd yn ei chael hi'n anodd y llynedd, fel rhai sydd bellach mewn argyfwng.

Roedd plant a phobl ifanc eu hunain yn adleisio llawer o ganfyddiadau’r ymarferwyr.  Fe wnaethant ddisgrifio methu â chanolbwyntio yn yr ysgol oherwydd newyn, teimlo’n unig ac yn ynysig a phoeni am gyllid teuluoedd a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar iechyd meddwl eu rhieni.

Siaradwr:   

Karen McFarlane, Swyddog Polisi: Tlodi a Phlant Agored i Niwed, Plant yng Nghymru ac awdur yr adroddiad