Yn y weminar hon clywodd cynrychiolwyr am y prosiect 'Rhieni'n Cysylltu Cymru', a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Plant yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gweithio tuag at ddatblygu llwyfan ledled Cymru ar gyfer casglu barn rhieni, a fyddai'n arwain at gyfranogiad mwy ystyrlon ar ffurf cydgynhyrchu. Roedd y weminar hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad a grymuso rhieni, ac yn arddangos peth o'r gwaith cyffrous sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru; gan gynnwys straeon bywyd go iawn am y daith y mae rhieni wedi'i chymryd i 'leisio'u barn' a chymryd mwy o ran yn hyrwyddo hawliau eu plant.