Ar gyfer y weminar hon, gweithiodd Plant yng Nghymru ochr yn ochr â Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Y Trussell Trust yng Nghymru, a esboniodd sut mae tlodi'n taflu cysgod dros fywydau miloedd o blant ac oedolion yng Nghymru ac mae banciau bwyd yn dyst i argyfwng cynyddol wrth i'r angen am fwyd brys gynyddu'n sylweddol.
Rhoddodd Susan drosolwg o waith banciau bwyd, proffil, graddfa a sbardunau defnyddio banciau bwyd yng Nghymru a'r camau y mae angen eu cymryd i leihau ac atal yr angen am ddarpariaeth bwyd brys. Cyflwynodd ganfyddiadau ymchwil Y Trussell Trust i gyflwr newyn yn y DU, yn ogystal â'u hymchwil ddiweddaraf ar wir gostau byw a'r camau sydd eu hangen i atal y llif cynyddol o ansefydlogrwydd.
Cyfeiriwyd cynrychiolwyr hefyd at ddata ymchwil ac ystadegol perthnasol ychwanegol ar ddefnydd banciau bwyd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Siaradwr
Susan Lloyd-Selby yw Arweinydd Rhwydwaith y Trussell Trust yng Nghymru, mae'n aelod o Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a'r glymblaid gwrth-dlodi, ac mae'n cyfrannu at nifer o fentrau Llywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â thlodi. Gadawodd yrfa 20 mlynedd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlu banc bwyd yn Ne Cymru lle mae'n parhau i fod yn ymddiriedolwr.