Ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant ymarferol ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol
Yn y gweminar hwn clywodd cynrychiolwyr am y gwahanol anawsterau y mae pobl ifanc yn eu profi gydag iechyd meddwl ac yn edrych ar sut i adeiladu gwytnwch, cynnal a gwella lles. Roedd y gweminar yn edrych ar y gwahanol fathau o iechyd meddwl, yr ymddygiadau sy'n gallu mynd gyda nhw a sut i gefnogi plant a phobl ifanc.
Helpodd y gweminar i:
* Godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl
* Rhoi gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl fel iselder, gor-bryder
* Ystyried beth sy'n gweithio yn magu gwytnwch, cynyddu lles a chynnig cymorth