Byrddau a grwpiau gwirfoddolwyr

Cymryd rhan yn ein Byrddau a'n Grwpiau

Mae tîm Cymru Ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfleoedd gwych i bobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw, drwy gydol y flwyddyn. Mae ganddon ni amrywiaeth o grwpiau a byrddau sy’n cwrdd bob deufis i weithio ar brosiectau cyffrous, ac maen nhw’n cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Dyma rai enghreifftiau o beth allech chi fod yn ei wneud fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc.

Dyma olwg cyflym ar bob grŵp:

Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc

Grŵp ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod yn ofalwr ifanc yw’r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc. Mae’n rhoi arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cyngor a chymorth yn benodol ar gyfer gofalwyr ifanc. Drwy ymuno â’r grŵp yma, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfrannu at weithgareddau mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i gefnogi gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yng Nghymru, gan roi lleisiau plant yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau.

Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol ar Iechyd Meddwl a Lles

Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol ar Iechyd Meddwl a Lles yn grŵp ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad neu ddiddordeb arbennig mewn iechyd meddwl a lles. Nod y grŵp yw mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl mae pobl ifanc yn eu rhannu ac adolygu mentrau iechyd meddwl a lles gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru. Mae’r math o waith y gallech chi fod yn ei wneud yn cynnwys adolygu, datblygu a phrofi sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau iechyd meddwl a lles mewn ysgolion, awdurdodau lleol ac ym maes iechyd (fel CAMHS).

Grŵp LHDTC+

Mae ein grŵp LHDTC+ yn cynnig lle diogel i bobl ifanc LHDTC+ a chynghreiriaid drafod pa faterion sy’n bwysig iddyn nhw, adolygu polisïau ac arferion a gwneud argymhellion. Mae'r grŵp yma’n agored i bawb sy'n arddel hunaniaeth LHDTC+ a chynghreiriad.

Grŵp Cyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd

Mae ein Grŵp Cyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i leisio’u barn am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd, gan adlewyrchu Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i godi lleisiau pobl ifanc a gweithio tuag at Gymru decach ac amgylcheddol ymwybodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y grŵp yn edrych ar faterion fel cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, trechu tlodi ac effaith newid hinsawdd ar y materion yma.

Grŵp Addysg a Hyfforddiant

Mae’r Grŵp Addysg a Hyfforddiant yn frwd dros wneud yn siŵr bod pobl ifanc Cymru yn cael mynediad at y cyfleoedd addysg a hyfforddiant gorau posib. Mae’r grŵp yma’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i rannu eu barn ar sut olwg ddylai fod ar addysg a hyfforddiant i bobl ifanc, a sut gallwn gyflawni’r canlyniadau gorau posib. Eu nod yw grymuso pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial ac adeiladu dyfodol mwy disglair iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau.

Grŵp Teimlo’n Ddiogel (Ar-lein ac mewn Perthnasoedd)

Mae’r Grŵp Teimlo'n Ddiogel (Ar-lein ac mewn Perthnasoedd) yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu ar-lein, ac yn eu perthnasoedd. Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu profiadau, deall eu hawliau, adeiladu cysylltiadau iach a thrafod sut gallwn ni weithio tuag at greu Cymru gadarnhaol a diogel i bobl ifanc.

Rhwydwaith Llais Ieuenctid Cymru

Mae Rhwydwaith Llais Ieuenctid Cymru wedi derbyn cyllid gan y Comisiwn Etholiadol i sefydlu Rhwydwaith Llais Ieuenctid yng Nghymru. Gan weithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, bydd y grŵp yn cynhyrchu adnoddau i annog pobl ifanc i bleidleisio. Yn ddiweddar cymerodd y grŵp ran yn wythnos Croeso i’ch Pleidlais a chreu posteri i godi ymwybyddiaeth o’n prosesau democrataidd yn ogystal â mynychu gweithdy gan Senedd Ieuenctid Cymru.

Sut mae cofrestru?

Rydyn ni’n defnyddio Microsoft Forms i gofrestru ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, felly os ydych chi am gofrestru fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc mae’r ffurflen ar gael isod. Bydd yn cymryd tua 20 munud i’w llenwi. Wedyn, byddwn ni’n cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i sesiwn sefydlu gwirfoddolwyr newydd ar-lein, a chyfleoedd a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Cofrestrwch yma 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy, neu angen cymorth gyda'r ffurflen gofrestru, cysylltwch â ni drwy e-bostio volunteer@childreninwales.org.uk

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @YoungWalesCIW