Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu

Lleoliad

Caerdydd – gweithio’n ystwyth gartref neu yn y swyddfa

 

Oriau Gwaith

14 awr yr wythnos

 

Contract

Cyfnod penodol – 11 Tachwedd 2024

 

Graddfa Gyflog

£34,000 y flwyddyn pro rata

 

Dyddiad cau

3 Gorffennaf 2024 (12:00yp)

Bydd y Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu yn gyfrifol am gefnogi a chyflawni cyfnod olaf y prosiect hwn a arweinir gan Bobl Ifanc lle mae pobl ifanc yn ymchwilwyr cymheiriaid. Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr i helpu pobl ifanc i symud ymlaen â’u prosiect ymchwil cymheiriaid ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Yn ystod cyfnod olaf y prosiect hwn yn benodol, byddwch chi’n sicrhau bod y gwaith ymchwil a dadansoddi data a gyflawnir gan y bobl ifanc hyn yn arwain at adroddiad terfynol wedi’i gydgynhyrchu a gaiff ei ledaenu’n helaeth, gan gynnwys cynllunio ‘Uwch-gynhadledd’ lle bydd modd i’r ymchwilwyr ifanc gyflwyno’u canfyddiadau.

CCUHP, ac Erthygl 12 yn arbennig, yw’r prif sbardun ar gyfer y rôl hon a bydd angen i ddeilydd y swydd arddangos gwybodaeth ac arbenigedd cadarn o ran galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi’n effeithiol a chael gwrandawiad wrth lywio datblygiad polisi ac ymarfer, ochr yn ochr â grymuso plant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru.