Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid Sesiynol

Lleoliad

Wedi'i leoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd ond yn allgymorth mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru

 

Tal

£125 y dydd

Telir costau trafnidiaeth

 

Dyddiad cau

Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024 (09:00yb)

 

Mae Cymru Ifanc yn fenter gan Plant yng Nghymru sy’n ymhelaethu ac yn cefnogi lleisiau plant a phobl ifanc ledled Cymru i gael eu clywed, i gael gwrandawiad a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau; a ategir gan CCUHP.

Wrth i’n cyrhaeddiad a’n heffaith ymestyn rydym yn chwilio am weithiwr ymgysylltu ieuenctid sesiynol deinamig ac egnïol i’n cefnogi i gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol. Bydd y gwaith yn cynnwys cefnogi'r tîm mewn sesiynau preswyl, digwyddiadau a gweithgareddau ymgynghori. Bydd yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n edrych am rôl hyblyg i gyd-fynd ag astudiaethau, cyfrifoldebau gofalu neu waith arall. Bydd yn cynnwys gwaith penwythnos, a gwaith gyda'r nos o bryd i'w gilydd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rheolwr Cymru Ifanc, Tegan Waites ar Tegan.waites@childreninwales.org.uk