Swyddog Datblygu Cymru Ifanc

Teitl swydd:                   

Swyddog Datblygu Cymru Ifanc

Lleoliad:                   

Caerdydd – gweithio ystwyth o gartref neu yn y swyddfa

Oriau Gwaith:         

21 awr yr wythnos (rhan amser)

Cytundeb:                    

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 gyda'r posibilrwydd o estyniad

Graddfa Cyflog:             

£34,000 y flwyddyn pro rata

Gwyliau Blynyddol:          

25 diwrnod y flwyddyn pro rata

Dyddiad cau:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am 6 Awst 2024.

A ydych chi'n frwd dros gefnogi pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnyn nhw? Os felly, yna gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi! Mae gennym gyfle i ymuno â’n tîm yn y rôl rhan amser hon i gyflawni nifer o weithgareddau gan gynnwys ymgynghoriadau cyfranogol, hwyluso byrddau cynghori ac ymgysylltu â phobl ifanc mewn amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau gan ddefnyddio dull cyfranogol.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Tegan Waites, Rheolwr Cymru Ifanc ar tegan.waites@childreninwales.org.uk

Bydd y Swyddog Datblygu, ynghyd â chydweithwyr yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu rhaglen gyfranogiad Plant yng Nghymru, trwy waith uniongyrchol gydag ystod amrywiol o blant a phobl ifanc a’r ymarferwyr a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, sef:

  • Hysbysu a galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi’n effeithiol a sicrhau bod Gweinidogion a llunwyr polisi’n clywed eu barn drwy Cymru Ifanc a gweithgareddau cyfranogiad eraill, er mwyn llywio datblygiad polisi ac ymarfer tra’n grymuso plant a phobl ifanc.
  • Cefnogi gweithrediad Erthygl 12 CCUHP drwy gasglu llais y plentyn i lywio datblygiad polisi.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am 6 Awst 2024

Cynhelir cyfweliadau ar 12 neu 13 Awst 2024