Cadwch Mewn Cysylltiad

Gall Plant yng Nghymru anfon gwybodaeth e-bost atoch chi am faterion cyfredol, ymgynghoriadau, cynadleddau, hyfforddiant a llawer mwy. I wneud hyn, mae arnon ni angen eich caniatâd. Mae ond angen llewni pob adran y ffurflen a dewis yr wybodaeth hoffech chi ei derbyn.
Cadwch Mewn Cysylltiad
Keep in touch

Gadewch i ni siarad!

Os hoffech chi siarad â ni, neu i gael rhagor o wybodaeth am Blant yng Nghymru, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod

Ffoniwch ni ar

(029) 2034 2434

Neu ebostiwch ni ar

info@childreninwales.org.uk

Ni fyddwn byth yn rhannu nac yn gwerthu eich gwybodaeth i gwmnïau marchnata ac, ar unrhyw adeg, gallwch newid eich dewisiadau neu ofyn i ni roi’r gorau i anfon gwybodaeth atoch. Byddwn bob amser yn diogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn ei phrosesu mewn ffordd gyfreithlon, deg a thryloyw. Dim ond gwybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani y byddwn yn ei hanfon atoch.

Canmoliaeth, awgrymiadau neu gwynion

Yma yn Plant yng Nghymru rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn hapus gyda’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau. Rydyn ni eisiau gwybod beth oedd yn dda ac heb ddod yn dda, felly rhowch wybod i ni.

Sut gallwch chi roi gwybod i ni os yw pethau wedi mynd yn dda?

Os ydych wedi bod yn hapus gyda gwasanaeth Plant yng Nghymru, rhowch wybod i ni. Rydym bob amser yn croesawu adborth a sylwadau cadarnhaol. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gysylltu â ni i drosglwyddo'r sylwadau hyn. Gallwch naill ai siarad â'r aelod o staff yr ydych wedi bod yn gweithio ag ef yn uniongyrchol neu gallwch anfon e-bost at complaint.compliment@childreninwales.org.uk.

Sut i ddweud wrthym os oes gennych gwyn neu i ddweud wrthym fod rhywbeth y gallem ei wneud gwell?

Rydym bob amser yn ceisio darparu ein gwasanaeth gorau i blant, pobl ifanc ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol rydym yn gweithio gyda nhw, ond os ydych yn anhapus neu os hoffech wneud cwyn yna gallwch lenwi’r ffurflen ni neu os yw’n well gennych gallwch gysylltu’n uniongyrchol drwy e-bostio complaint.compliment@childreninwales.org.uk neu ysgrifennu at:
Plant yng Nghymru
Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARC)
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

FFURFLEN GWYNO

I ddysgu mwy am beth wnawn gyda’ch gwybodaeth, gweler ein Polisi Preifatrwydd​​​​​.