
Rhannodd dros 439 o ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr gofal plant, rheolwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant ac athrawon o bob rhan o Gymru eu profiadau o weithio yn ystod y pandemig; pa newidiadau sydd wedi’u gwneud a’u canfyddiadau o effaith y newidiadau hyn.
Mae’r canfyddiadau ar ffurf pum Ffeithlun ac yn rhoi cipolwg cyntaf, gan gynnwys:
- Canfyddiadau Allweddol
- Hyfywedd y Ddarpariaeth
- Rheoliadau Covid-19
- Hawliau Plant
- Yr effaith ar Staff
Bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gynnal yn awr, a fydd yn rhoi darlun mwy cyfannol, ac os hoffech gael y canlyniadau ehangach pan fyddant yn barod, anfonwch e-bost at: louise.oneill@childreninwales.org.uk