
Gydag etholiadau nesaf y Senedd wedi'u cynllunio ar gyfer mis Mai 2026, mae Plant yng Nghymru yn galw ar aelodau a phartneriaid i helpu i lunio Maniffesto newydd beiddgar ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc.
Rydym am sicrhau bod hawliau, lles a datblygiad pob plentyn - yn enwedig y mwyaf agored i niwed - wrth wraidd blaenoriaethau gwleidyddol. Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Dyna pam mae angen eich mewnbwn arnom!
Cymerwch 2 - 5 munud i gwblhau ein harolwg a dweud wrthym beth ddylai Llywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio arno ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd eich barn yn llywio'n ein Maniffesto Plant, a fydd yn cael ei gyhoeddi yr haf hwn, ac yn ein helpu i wneud yn siŵr bod pleidiau gwleidyddol yn clywed llais ein sector yn uchel ac yn glir.
Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod hawliau babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu parchu, eu diogelu a'u blaenoriaethu yn nhymor nesaf y Senedd.