Ymgynghoriad proffesiynol Llais y Baban

Ydych chi’n rhywun sy’n gweithio’n broffesiynol gyda babanod (o dan 2 oed) a/neu eu teuluoedd? Os felly, gofynnwn i chi neilltuo ychydig funudau i ymateb i’r ymarferiad ymgynghori byr hwn

Mae Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio ar brosiect i ddatblygu adduned baban. Bydd yr adduned baban yn nodi beth dylai babanod ei ddisgwyl gan y bobl sydd o’u cwmpas. Bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi llais y baban mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac amgylcheddau, ac yn galluogi gwasanaethau a chymunedau i ddiwallu anghenion penodol babanod.

Rydyn ni eisiau i’r adduned gael ei defnyddio’n offeryn i bawb ddeall bod gan fabanod eu meddyliau eu hunain; eu bod nhw’n gyfathrebwyr galluog a bod rhaid gwrando ar eu llais. Mae’r llais yna i’w glywed a’i weld yn eu seiniau a’u symudiadau, eu hymateb i’r amgylchedd a sut maen nhw’n rhyngweithio â’r bobl sydd gyda nhw.

I’n helpu i greu’r adduned baban, rydyn ni’n gofyn i bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd a babanod o dan 2 oed gymryd rhan mewn ymarferiad ymgynghori byr.

Byddwn ni’n gofyn 3 chwestiwn i chi er mwyn darganfod beth sydd ei angen ar fabanod, a bydden ni’n hoffi i chi ateb o bersbectif baban (o dan 2 oed)

Ddylai’r ymarferiad ymgynghori ddim cymryd mwy na 5-10 munud. Ar agor tan 17 Ionawr 2025

https://www.menti.com/ala74zxmr7yr

Baby voice consultation Prof - QR Cym.png

Diolch yn fawr, rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amser i ateb y cwestiynau yma. Bydd eich mewnwelediad a’ch mewnbwn yn helpu i lunio Adduned Baban Cymru gyfan.

Cadwch lygad ar wefan Plant yng Nghymru i weld datblygiadau pellach o ran y gwaith yma, neu cysylltwch ag anna.westall@childreninwales.org.uk