Galwad am Dystiolaeth
Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cynnal archwiliad o’r cynnydd a wnaed gan lywodraethau i roi Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar waith.
Ym mis Rhagfyr 2020, fe wnaethon ni gyhoeddi ein hadroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru gyda mwy na 90 o gyfraniadau gan gymdeithas sifil yng Nghymru i lywio rhestr blaenoriaethau’r Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ganddyn nhw ym mis Chwefror 2021. Cyflwynwyd ymateb ar y cyd gan y llywodraeth i’r blaenoriaethau hyn i’r CU ym mis Mehefin 2022
Mae Plant yng Nghymru, ynghyd â’n partneriaid yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, yn awr yn adnewyddu ein hadroddiad, a byddwn ni’n ei gyflwyno i’r CU yn ddiweddarach eleni. Rydyn ni’n awyddus i grynhoi beth sydd wedi newid yn eich meysydd gwaith ers i’n hadroddiad gael ei gyhoeddi.
Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych chi.
Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i alw’r llywodraeth i gyfrif ac i nodi meysydd ar gyfer newid.
Fe wnaethoch chi ein helpu i nodi’r materion canlynol i’r CU trwy ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2020.
Trais yn erbyn Plant Trais, camdriniaeth ac esgeuluso Camfanteisio a cham- drin rhywiol Arferion niweidiol (FGM, FM etc.) Cam-drin Domestig Bwlio |
Amgylchedd y Teulu a Gofal Amgen Gofal plant Plant â phrofiad o ofal Plant carcharorion Gofalwyr Ifanc |
Anabledd, Iechyd a Lles Sylfaenol Plant anabl Anghydraddoldebau iechyd Iechyd Meddwl Iechyd Amgylcheddol Tlodi Plant |
Addysg, Hamdden a Gweithgareddau Diwylliannol Addysg Chwarae a Hamdden Gweithgareddau diwylliannol |
Mesurau Amddiffyn Arbennig Ceiswyr Lloches, Ffoaduriaid a Phlant sy’n Mudo Gweinyddu cyfiawnder ieuenctid |
Egwyddorion Cyffredinol Peidio â Chamwahaniaethu Troseddau Hil, Atgasedd Teithwyr sy’n Sipsiwn Parch at Farn y Plentyn / Cyfranogiad |
Mesurau Gweithredu Cyffredinol Deddfwriaeth a Strategaeth Asesiad Effaith ar Hawliau Plant Cydlyniad Cyllidebu Monitro annibynnol |
Materion Trosfwaol (gan gynnwys) Effaith COVID 19 Effaith Brexit Ymgorffori Fframweithiau Hawliau Dynol Y Ddeddf Hawliau Dynol |
|
Sut mae cyfrannu : Canllawiau Cyflwyno.
Rydyn ni’n croesawu ymatebion a thystiolaeth ar gynifer o’r pynciau ag rydych chi’n dymuno ymateb iddyn nhw. Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi roi sylw i bob pwnc, dim ond y meysydd hynny lle mae gennych chi wybodaeth a thystiolaeth rydych chi’n dymuno eu rhannu
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ganfod
- Beth yw’r prif faterion y dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fod yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw a pham?
- Beth sydd wedi newid ers ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2020? Oes unrhyw beth wedi gwella neu waethygu i blant yng Nghymru? Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud? Pa dueddiadau rydych chi’n eu gweld?
- Pa wybodaeth neu dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn?
- Pa bolisi neu newidiadau i’r gyfraith sy’n angenrheidiol?
- Pa argymhellion rydych chi’n eu hawgrymu dylai’r CU eu gwneud i lywodraeth(au) i wella’r sefyllfa i blant yng Nghymru?
Gofynnir i chi fod yn gryno a cheisio cadw eich ymateb i ryw 400 o eiriau fesul pwnc. Cofiwch gynnwys cyfeiriadau at unrhyw astudiaethau (a gyhoeddwyd neu sydd heb eu cyhoeddi), ystadegau ac adroddiadau sydd wedi cael eu rhyddhau ers 2020 i gefnogi eich tystiolaeth. Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth rydych wedi’i chasglu gan blant neu bobl ifanc neu unrhyw astudiaethau achos rydych chi eisiau eu cynnwys
Gofynnir i chi fod yn glir ynghylch a ydych chi’n darparu ymateb ar ran eich sefydliad, gan rwydwaith neu fel unigolyn (e.e. academydd).
Gellir rhannu eich mewnbwn gydag arweinwyr thematig yn ein Grŵp Llywio Prosiectau at ddiben gwirio cywirdeb
Cydnabyddiaeth – rydyn ni am roi cydnabyddiaeth lawn i bob sefydliad sydd wedi cyfrannu tystiolaeth i’w bwydo i’r adroddiad. Cyn ei gyhoeddi, byddwn ni’n cysylltu â sefydliadau i gefnogi’r Adroddiad. Does dim rhwymedigaeth yn hyn o beth, ond bydden ni’n hoffi cefnogi a dangos gwerthfawrogiad i sefydliadau am eu hamser a’u hymwneud â’r gwaith yma.
Anfonwch eich sylwadau i – CRCWales@childreninwales.org.uk
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Sean O’Neill sean.oneill@childreninwales.org.uk
Dyddiad Cau – dydd Gwener 7 Hydref 2022.