Ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023, bu Plant yng Nghymru yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant trwy gynnal Gŵyl flynyddol Cymru Ifanc ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Eleni, cafwyd nawdd hael ar gyfer rhai o’r costau cysylltiedig â’r digwyddiad gan Cactus Design Ltd a Techsol Group Ltd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ddod i gysylltiad â llunwyr penderfyniadau hollbwysig, gan gynnwys y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Rheolwyr Polisi Llywodraeth Cymru.
Wrth i’r diwrnod gychwyn, cyrhaeddodd ein cynrychiolwyr a chofrestru ar gyfer y gweithdai a’r sesiynau bord gron oedd wedi’u cynllunio. Wrth i bobl gyrraedd, cafwyd perfformiadau rhyfeddol gan bobl ifanc Anthem ar lwyfan y Brif Neuadd. Dyna lle roedd yr ardal arddangos hefyd, ac roedd yn llawn stondinau sefydliadau eraill oedd yn cynnig gweithgareddau difyr a thestunau trafod.
I agor yr ŵyl yn swyddogol, bu Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, Hugh Russell, yn croesawu’r rhai oedd yn bresennol ac yn rhoi anerchiad agoriadol. Dilynwyd hynny gan ein siaradwr cyntaf, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, cyn i’n gwirfoddolwyr ifanc roi cyflwyniad ar ein prosiect diweddaraf, llyfr dathlu 30 mlwyddiant Plant yng Nghymru: ‘Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru’.
Yn fuan, dechreuodd y prif ddigwyddiad, gyda’r cyntaf o’r gweithdai rhyngweithiol a’r sesiynau bord gron yn cael eu cynnal. Roedd y sesiynau hyn yn gyfle i’r plant a’r bobl ifanc oedd yn bresennol sicrhau bod Gweinidogion a swyddogion eraill yn clywed eu lleisiau, ac fe gawson nhw drafod y pynciau oedd yn bwysig iddyn nhw.
Roedd y gweithdai rhyngweithiol yn cynnwys pynciau fel Gorbryder a Straen, Sgiliau Syrcas, Drama, Amgueddfa Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Meithrin Hyder a Sgiliau. Cafodd y gweithdai hyn eu hailadrodd ar hyd y dydd, fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i chwarae rhan weithredol ynddyn nhw.
Roedd 6 sesiwn bord gron ar gael yn ystod y digwyddiad, dan arweiniad amrywiaeth o siaradwyr allweddol. Bu llawer o’r plant a’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn ymgysylltu’n llawn â’r pynciau, ac yn sicrhau bod eu safbwyntiau i’w clywed. Dyma oedd testunau’r sesiynau:
Iechyd Meddwl a Llesiant - Millie Boswell, Uwch Reolwr Polisi Llywodraeth Cymru, oedd swyddog y ford gron yma, lle trafodwyd cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion a’r amserau aros ar hyn o bryd ar gyfer pobl ifanc sy’n ceisio cefnogaeth broffesiynol. Rhoddwyd sylw hefyd i ddilyniant a chysondeb gofal.
Costau Byw - Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, oedd yn arwain y ford gron ar Gostau Byw. Bu’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn trafod y berthynas rhwng Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad a thlodi, y gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai â nodweddion gwarchodedig, a sut mae ymdrin â chostau cynyddol eitemau a gwasanaethau hanfodol. Buon nhw hefyd yn holi sut gallwn ni sicrhau bod pobl ifanc yn byw, yn hytrach na goroesi’n unig, yn ystod yr argyfwng yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad – Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, oedd â gofal am drydedd sesiwn y dydd. Yma trafodwyd cwestiynau fel sut mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i’w holl hawliau? Sut mae creu gwasanaethau ac amgylcheddau cynhwysol, a sut mae Cymru’n cyflawni ei hymrwymiad i fod yn genedl noddfa?
Newid yn yr Hinsawdd - Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, oedd â gofal am y Ford Gron yn trafod Newid Hinsawdd. Bu ef a’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn trafod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, sut mae sylw’n cael ei roi i’r effeithiau hynny, a sut mae trawsffurfio’r seilwaith trafnidiaeth presennol mewn ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Buon nhw hefyd yn rhoi eu barn ar sut gall Cymru ddylanwadu ar bolisi byd-eang i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol.
Addysg – Ochr yn ochr â 3 swyddog addysg o Lywodraeth Cymru, bu’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn y sesiwn bord gron hon yn archwilio effeithiau tlodi a chostau byw ar addysg. Buon nhw’n ystyried sut gallwn ni alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni hyd eithaf eu potensial, a sut gallwn ni greu ymarferwyr, gwasanaethau ac amgylcheddau sy’n meithrin pobl o bob oed ac yn ddiogel iddyn nhw.
Hawliau Plant a Chyfranogiad – Roedd sesiwn bord gron olaf y dydd yng ngofal Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru. Roedd hon yn sesiwn boblogaidd iawn, a bu’r rhai oedd yn bresennol yn archwilio sut gallwn ni gynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant yng Nghymru a’i gwneud hi’n wlad fwy croesawgar i blant. Buon nhw hefyd yn ystyried cyfranogiad ieuenctid yng Nghymru a’r mesur pobl ifanc.
Cafwyd sawl egwyl yn ystod y dydd, a chafodd y gwesteion gyfle i fwynhau lluniaeth, cwrdd â’r sefydliadau ar eu stondinau, ac wrth gwrs, gwylio’r perfformwyr ifanc dawnus o Anthem. Daeth y digwyddiad i ben ag anerchiad ysgubol a diolchiadau gan Gadeirydd Plant yng Nghymru, Helen Mary Jones.
I grynhoi, roedd Gŵyl Cymru Ifanc 2023 yn ddiwrnod diddorol i nodi Diwrnod Byd-eang y Plant. Roedd yn llwyfan i’n gwirfoddolwyr ifanc rannu eu cyflawniadau, cymryd rhan mewn gweithdai diddorol, ac yn gyfle iddyn nhw gwrdd â llunwyr penderfyniadau pwysig yng Nghymru i drafod y pynciau sydd o bwys iddyn nhw. Roedd hefyd yn gyfle i ni ddathlu hawliau plant a phobl ifanc, a’r gwaith a wnaed yn ystod 30 mlynedd o wasanaeth Plant yng Nghymru.