Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Plant yng Nghymru wedi ail-lansio’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Blant (APPG), gan roi cyfle i Aelodau Seneddol ac Arglwyddi o Gymru ymuno â’i gilydd i ddilyn pwnc neu ddiddordeb sy’n ymwneud â babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru.  Mae’r APPG yn agored i Aelodau’r ddau Dŷ, waeth beth fo’u hymlyniad pleidiol, gan alluogi seneddwyr i ymgysylltu ag arbenigwyr a sefydliadau y tu allan i’r Senedd a all ddarparu cyfraniadau arbenigol i lywio pwnc eu Grŵp.

Yn y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ar y 5ed o Chwefror 2025, etholwyd Gill German AS (Llafur, Gogledd Clwyd) yn Gadeirydd, gydag Ann Davies (Plaid Cymru, Caerfyrddin), Andrew Ranger (Llafur, Wrecsam) a’r Arglwydd Davies o Gŵyr (Ceidwadwyr) yn Swyddogion.

Ar hyn o bryd mae'r APPG yn nodi eu blaenoriaethau, a Plant yng Nghymru yn darparu'r swyddogaeth ysgrifenyddol.  Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei bostio yma – Plant yng Nghymru | Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Blant yng Nghymru

Ochr yn ochr â’n Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd yn y Senedd, bydd yr APPG yn San Steffan yn rhoi’r cyfle i wleidyddion yn y ddau sefydliad fod yn fwy gwybodus am flaenoriaethau a materion plant, eu teuluoedd a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi.