Y llynedd cynyddodd prosiect llwyddiannus iawn Dangos ymwybyddiaeth o faterion ariannol ar gyfer dros 3,500 o weithwyr rheng flaen yng Nghymru.
Beth yw Dangos?
Prosiect i’ch helpu i ddangos i bobl eraill fod llawer o ffyrdd o wella eu sefyllfa ariannol yng Nghymru, ac i ddangos i chi sut i leddfu eu pryderon am hawlio.
Dangos 2
Eleni, mae ail rownd o Dangos, ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar fin dechrau – yn fwy ac yn well.
Yn ogystal â’r cyrsiau sylfaenol a gynhaliwyd y llynedd, eleni rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o sesiynau lefel canolradd i bobl â mwy o brofiad.
Mae'r sesiynau canolradd hyn wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth a'u hymarfer presennol. Dydyn nhw ddim wedi’u cynllunio o hyd i droi pobl yn gynghorwyr ond maen nhw’n wych ar gyfer pobl sydd wedi mynychu’r cyrsiau sylfaenol neu sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd angen cymorth ers tro. Bydd sesiynau gyda mwy o ffocws ar gyfer y rhai sydd â diddordeb arbennig mewn tai, gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a hefyd ar gyfer y rhai sydd eisiau ychydig mwy o fanylion am fudd-daliadau. (Mae'r prif gynnwys yn gyffredin, felly nid ydym yn argymell cynnal sesiynau lluosog). Nod y rhain yw ehangu ymwybyddiaeth pobl o'r ystod eang o gymorth o wahanol ffynonellau yng Nghymru ac annog cydweithio.
Mae degau o filiynau o bunnoedd o fudd-daliadau a chymorth arall yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall yr arian hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd a’u dyfodol.
Nod Dangos yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gweithwyr rheng flaen ynghylch y cymorth sydd ar gael. Hynny yw, pobl sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd â theuluoedd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, pa un a ydyn nhw’n weithwyr cyflogedig neu’n wirfoddolwyr.
Bydd ein sesiynau ar-lein rhad ac am ddim i weithwyr rheng flaen ledled Cymru yn dechrau ym mis Mai 2022 ac yn parhau i mewn i 2023. Bydd y ddwy lefel wrth gwrs yn sesiynau tair awr o hyd, yn rhyngweithiol iawn, yn cael eu hategu gan becyn gwybodaeth byr, ac i’r rheiny sydd ei eisiau, mynediad am ddim at gyrsiau e-ddysgu manylach am y system fudd-daliadau a sut mae’n gweithio.
Mae gwefan Dangos yn rhoi rhagor o fanylion ac yn galluogi pobl i gofrestru, yn unigol, ar gyfer sesiynau. Y wefan yw: www.dangos.cymru a www.dangos.wales.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau mewnol, cysylltwch â ni: info@dangos.cymru neu info@dangos.wales.