Roedd 21 Mawrth 2022 yn achlysur pwysig yng Nghymru, pan gafodd hawliau plant eu hamddiffyn ymhellach a daeth pob math o gosb gorfforol yng anghyfreithlon.
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio ar brosiect i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob oed yn clywed am y newidiadau hyn, mewn ffordd sy’n briodol ac yn sensitif i’w hanghenion
Rydyn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc eu hunain, trwy grwpiau ymgynghori ifanc, ond bydden ni hefyd yn hoffi clywed gan bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda nhw, ynghylch sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn.
Rydyn ni wedi llunio arolwg byr ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector plant a phobl ifanc, ac mae ar gael yma https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=-nCoM3AcVE6tcEfRbBq9GduLwm1Jy3hOo3DjL6MdNVFUQkJEUVYxSTRMMlEzRUJCRDhPNTBFT05HTy4u&lang=cy-GB
Gofynnwn i chi gwblhau’r arolwg hwn er mwyn i ni allu deall eich anghenion yn well, a’ch syniadau chi fel gweithwyr proffesiynol ynghylch rhannu gwybodaeth am stopio cosbi corfforol gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â: elaine.speyer@childreninwales.org.uk.
Os hoffech chi ddysgu mwy am y newidiadau i’r ddeddfwriaeth, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/stopio-cosbi-corfforol-i-blant