shutterstock_1814206748.jpg

Ydych chi neu rywun rydych chi’n nabod ar fin gadael gofal? Eisiau bod yn barod i fyw’n annibynnol? Mae gwefan newydd Prosiect Paratoi yn cynnig adnoddau helaeth i helpu gyda’r cyfnod pontio pwysig hwn. 

Mae Prosiect Paratoi yn cyd-fynd â chynllun Llywodraeth Cymru ‘Pan fydda i’n barod’, gan gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw bontio o ofal i fyw’n annibynnol.  

Mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys: 

  • Gweithdai untro i bobl ifanc am faterion penodol fel datblygu CV, addysg, cyflogaeth, rheoli arian, a hawliau a dewisiadau tai. 

  • Gweithdy untro proffesiynol ynghylch trafferthion ariannol, dulliau gweithredu sy’n ystyried trawma a chymorth i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. 

  • Cymorth i chi wybod beth yw eich hawliau a’r hyn sydd ar gael i chi wrth gynllunio i adael gofal, gan gynnwys eich helpu i drin eich arian. 

  • Cefnogaeth i symud i gyflogaeth, i addysg, i ardal newydd a chymorth wrth i chi symud allan am y tro cyntaf. 

Un o nodweddion allweddol y prosiect yw datblygu adnoddau cynhwysfawr sydd wedi’u dylunio i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o’u hawliau a’r hyn sydd ar gael i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, wrth iddyn nhw baratoi i adael gofal. 

Er mwyn i’r adnoddau hyn fod ar gael yn hwylus, rydyn ni newydd lansio gwefan swyddogol Prosiect Paratoi, a gallwch ymweld â hi trwy ddefnyddio’r ddolen isod: 

https://gettingready.childreninwales.org.uk/cy/  

Mae’r wefan ar gael yn hwylus i bob person ifanc ac mae modd ei theilwra’n benodol ar gyfer pob awdurdod lleol.  

Os ydych chi’n gweithio mewn awdurdod lleol ac fe hoffech gael eich adran adnoddau eich hun, cysylltwch â ni ar: gettingready@childreninwales.org.uk