Mae angen eich help arnom i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed. Ar hyn o bryd rydym am ddatblygu ein gwaith i roi cyfleoedd i blant iau gymryd rhan a chodi materion sy'n bwysig iddynt. Rydym am sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan wneuthurwyr penderfyniadau, swyddogion polisi, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion.
Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn nodi 'bod gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a'i ddymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arnynt, a chael eu barn yn cael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif.'
Er mwyn cynnwys plant ifanc yn ein gwaith mae angen i ni ymgysylltu ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda nhw. Mae angen i blant deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu hamgylchedd er mwyn mynegi eu barn.
Os ydych chi'n gweithio gyda phlant rhwng 0-5 oed ac eisiau eu cefnogi i gael llais, cysylltwch â ni.
Mae gan y daflen isod fanylion llawn.