Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Mae Plant yng Nghymru yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn gofod3, y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o'i fath yng Nghymru. Trefnir gofod3 gan CGGC ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, ac yn cael ei gynnal ar-lein dros bum niwrnod o’r 20-24 Mehefin 2022.
Gyda mwy na 70 o ddigwyddiadau AM DDIM i ddewis ohonynt, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, mae rhywbeth i bawb. Mae Plant yng Nghymru yn falch iawn o fod yn cynnal TRI DIGWYDDIAD yn gofod3 a byddwn yn cynnig y canlynol:
Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Pobl Ifanc
Hawliau Plant a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru
Hanfodion Diogelu – gwneud pethau'n iawn mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwyr neu’n bob un o’r rhain, gofod3 yw eich gofod unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch weld y rhaglen lawn a darganfod mwy drwy ymweld â gofod3.cymru
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.