Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod harneisio cefnogaeth y rhai sydd wedi profi'r system gofal a digartrefedd yn allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen i atal pobl sy'n gadael gofal rhag cwympo oddi ar y ‘clogwyn gofal’ a bod yn ddigartref yn y dyfodol.
Mae unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp agored i niwed sy'n gorfod ymdrin â heriau sylweddol a lluosog yn eu bywydau. Mae hyn hefyd yn eu rhoi yn y sefyllfa orau i gynnig cefnogaeth a chyngor i wasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rhai sydd ar fin gadael gofal.
Mae pontio o ofal yn gyfnod allweddol ym mywyd person ifanc ac mae'n aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael mewn meysydd fel iechyd, addysg, tai a chyflogaeth, gyda thua chwarter o bobl ifanc ddigartref wedi cael profiad o fod mewn gofal.
Mae tua 650 o blant yn gadael eu lleoliad gofal yng Nghymru bob blwyddyn, ffigur sydd wedi cynyddu tua 15 y cant ers 2011. Er bod y mwyafrif yn symud i lety addas, mae dros un o bob 20 yn symud i lety anaddas. Pan wnaed gwaith dilynol gyda nhw ar eu pen-blwydd yn bedair ar bymtheg oed, roedd bron dau o bob pump o'r rhai oedd â phrofiad o fod mewn gofal nad oeddent yn cymryd rhan mewn naill ai addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac nid oedd bron chwarter ohonynt (23 y cant) wedi cael unrhyw gymwysterau.
Meddai Manon Roberts, Uwch-swyddog Polisi ar gyfer Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae ymchwilwyr wedi tynnu sylw’n benodol at yr angen i ymgynghori'n uniongyrchol â phobl ddigartref am eu profiadau er mwyn datblygu negeseuon iechyd ac ymyriadau effeithiol.
“Dangoswyd hefyd ei bod yn bwysig sicrhau bod pobl ifanc sy'n pontio o ofal i fod yn oedolion yn cael y lle i wneud eu dewisiadau eu hunain, gan gynnwys eu grymuso i lunio'r math o gymorth sydd ei angen arnynt a datblygu nodau.
“Er bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y DU, un etifeddiaeth sydd gennym yw'r gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol, gan ddod o hyd i atebion hyblyg i broblemau anodd fel digartrefedd, gydag anghenion yr unigolyn yn rym ysgogol canolog ar gyfer gweithredu. Os gellir cadw hyn ac adeiladu'n barhaus arno wrth symud ymlaen, byddai hyn yn fanteisiol i unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Mae awydd ymhlith y rhai sydd wedi cael profiad o'r system gofal i wneud y profiad yn well i'r rhai sy'n eu dilyn a dylid defnyddio'r adnodd hwn na fanteisiwyd arno i'r eithaf. Mae hefyd yn bwysig i sefydliadau sy'n cyfrannu at unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i fyfyrio ar sut i sicrhau bod unigolion â phrofiad o fod mewn gofal wrth wraidd y penderfyniadau.”
Yn ogystal â grymuso unigolion â phrofiad o fod mewn gofal, roedd y blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer lleihau digartrefedd yn y grŵp hwn yn cynnwys:
- Ymyriadau ataliol
- Parodrwydd ar gyfer pontio
- Parhad gofal
- Lleoliadau lleol
- Lleihau stigma
- Cyfathrebu gwell.
Meddai Bill Rowlands o End Youth Homelessness Cymru:
“Mae ymchwil wedi dangos ers tro bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn fwy tueddol o brofi digartrefedd na'u cyfoedion nad ydynt wedi derbyn gofal. Yn wir, amlygodd ein hymchwil ein hunain yn 2020 y tueddiad hwn yng nghyd-destun Cymru, a rhoddodd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Gwnaethom groesawu'r cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwil hon gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei fod yn llwyfan gwych i'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw i rannu eu profiadau, gan obeithio y bydd yn gwella profiadau'r rhai yn y system gofal yn y dyfodol. Mae'n hanfodol mai rhain yw'r lleisiau rydym yn gwrando arnynt wrth i ni geisio creu system sy'n gweithio i'r rhai sy'n gadael y system gofal ac yn pontio i fyw'n annibynnol”.