Mae gweithdrefn Gweithio i Wella’r GIG yng Nghymru yn rhoi ffordd i gleifion godi pryderon am wasanaethau gofal iechyd. Nawr, mae Plant yng Nghymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i adolygu'r weithdrefn hon - ei gwneud yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc.

Dan 25 oed a chael profiad cadarnhaol neu negyddol gyda'r GIG? Rydyn ni eisiau clywed gennych! Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau newydd sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd eisiau gwneud cwyn.

Rhai o nodau craidd y prosiect yw:

  • Symleiddio iaith, lleihau geiriau a gwneud gwybodaeth yn gryno ac yn glir fel ei bod yn hygyrch i blant a phobl ifanc trwy gydol unrhyw ganllawiau ac adnoddau a ddatblygir.
  • Datblygu adnodd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc a gyd-gynhyrchir gan blant a phobl ifanc, sy'n cynnwys iaith sy'n briodol i'w hoedran, delweddau diddorol a fformat symlach.
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o'r system gwynion a'r broses gan ddefnyddio'r adnodd a/neu ganllawiau newydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i lunio'r newidiadau hyn, cymerwch ychydig funudau i gwblhau ein harolwg.​​​​​​​