Lansio Cystadleuaeth Ffotograffau Cyswllt Rhieni C…
Munud Arbennig
Mae Hugh yn ymgyrchydd profiadol ac egnïol ac yn weithiwr polisi cyhoeddus proffesiynol sydd â diddordeb penodol yn hawliau a llesiant pobl ifanc, tai a digartrefedd.
Mae gan Hugh gyfoeth o brofiad o ddylanwadu ar newid polisi yng Nghymru, o’i rôl ddiweddaraf yn Cwmpas, yr asiantaeth ddatblygu sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf, ac o rolau blaenorol fel yn Llamau lle bu, ymhlith pethau eraill, yn rheoli’r Ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid. Mae Hugh wedi treulio llawer o’i yrfa ym maes tai ac atal digartrefedd, gyda ffocws penodol ar fynediad pobl ifanc at dai. Roedd yn un o’r arweinwyr wrth ddatblygu cymdeithas tai ieuenctid gyntaf Cymru, Tai Ffres, a bu’n ymwneud â sefydlu Tŷ Pride, llety cyntaf Cymru i bobl ifanc LHDTC+ sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Yn ystod ei gyfnod ar fwrdd TGP Cymru bu Hugh yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sefydlu eu gwasanaeth Tîm o Gwmpas Tenantiaeth, a dylanwadodd hefyd ar gyfeiriad polisi tai i bobl ifanc â phrofiad o ofal.
Mae Hugh yn arweinydd deinamig, llawn angerdd, a fydd yn adeiladu ar waith Plant yng Nghymru, gan gynyddu ein heffaith a’n dylanwad er budd holl blant Cymru.
Dywedodd Hugh:
“Rydw i wrth fy modd fy mod i’n ymuno â Plant yng Nghymru fel Prif Weithredwr ym mis Gorffennaf. Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dal i wynebu heriau aruthrol, y mae tlodi’n ganolog iddynt ac yn flaenaf yn eu plith, ac mae gan Plant yng Nghymru rôl allweddol yn sicrhau bod hawliau’r plant hynny yn cael eu parchu. Mae newid gwleidyddol sydd ar ddod yn gyfle i sicrhau bod plant yn cael y lle blaenaf ym mholisi’r llywodraeth i’r dyfodol, a hynny yng Nghymru ac yn San Steffan, ac rwy’n awyddus i sicrhau bod Plant yng Nghymru yn manteisio ar bob cyfle, yn ystod y cyfnod hwn a’r tu hwnt, i chwyddo lleisiau’r sector plant a phlant a phobl ifanc eu hunain.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd ag aelodau Plant yng Nghymru a dod i’w hadnabod, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod holl hawliau plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu cyflawni. Yn yr un modd, rwy’n gyffrous ynghylch gweithio gydag aelodau Cymru Ifanc i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed ar bob lefel o’r llywodraeth yng Nghymru.”
Dywedodd Helen-Mary Jones, Cadeirydd Plant yng Nghymru:
“Mae’r Bwrdd wrth eu bodd yn croesawu Hugh i’w rôl newydd. Mae ganddo brofiad diamheuol o arwain ymgyrchoedd, ac mae ei angerdd ynghylch hybu hawliau plant a phobl ifanc yn ddi-ail. Fel Cadeirydd, rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef ar adeg sy’n anodd iawn i lawer o blant a theuluoedd yng Nghymru.”
Munud Arbennig